Yn bresennol
Categori
|
Enwau
|
Aelodau’r
Cynulliad:
|
Lynne Neagle AC
(Cadeirydd)
Dawn Bowden
AC
Hefin David
AC
Suzy Davies
AC
Janet
Finch-Saunders AC
Siân
Gwenllian AC
|
Tystion:
|
Kirsty Williams
AC, Y Gweinidog Addysg
Huw Morris,
Llywodraeth Cymru
Steve Davies,
Llywodraeth Cymru
Julie Morgan AC,
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Vaughan Gething
AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jo-anne Daniels,
Llywodraeth Cymru
Albert Heaney,
Llywodraeth Cymru
Yr Athro Jean
White, Llywodraeth Cymru
|
Staff y
Pwyllgor:
|
Llinos Madeley
(Clerc)
Tanwen Summers
(Ail Glerc)
Sarah Bartlett
(Dirprwy Glerc)
Phil Boshier
(Ymchwilydd)
Michael Dauncey
(Ymchwilydd)
Sarah Hatherley
(Ymchwilydd)
|
<AI1>
1
Cyflwyniad,
ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; ni chafwyd
ymddiheuriadau.
</AI1>
<AI2>
2
Craffu ar
Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-2021
2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog mewn perthynas
â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth isod, yn
ysgrifenedig, ar ôl y cyfarfod:
- manylion swm y dyraniad ar gyfer addysg sydd wedi'i gynnwys yn Grant Cymorth Refeniw
Llywodraeth Leol 2020-21, ynghyd â dadansoddiad sy'n cynnwys
manylion y swm y bwriedir ei wario ar y cynnydd yng nghostau
tâl a phensiynau
athrawon a faint, wedyn, fydd yn gyllid ychwanegol gwirioneddol i
ysgolion. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd i’w Gweinidog
gadarnhau’r canlynol:
faint o gyllid canlyniadol Barnett ar
gyfer 2020-21 y mae Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn gan Lywodraeth
y DU y gellir ei briodoli i gynydd mewn gwariant ar addysg yn
Lloegr;
faint o arian ychwanegol y mae
Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu ar gyfer addysg, gan gynnwys
dadansoddiad o faint sydd wedi'i gynnwys yn y setliad llywodraeth
leol a faint sy'n cael ei sianelu drwy'r MEG Addysg;
- sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r gwariant sy'n
deillio o'r £15 miliwn a ddyrannwyd i ariannu dysgu a datblygiad proffesiynol athrawon
i baratoi ar
gyfer y cwricwlwm newydd;
- pryd y cyhoeddir y dyddiad y bydd angen darparu gwybodaeth am
y dyraniadau amrywiol yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar
gyfer ymchwil ac arloesi, gan gynnwys manylion y swm o arian
preifat y disgwylir ei drosoli (DS cadarnhawyd y caiff y
wybodaeth hon ei darparu cyn gynted ag y bydd ar gael) - bydd y
Pwyllgor yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'r Pwyllgor EIS ga ei bod yn
berthnasol i bortffolio’r Pwyllgor hwnnw;
- manylion pellach am ganfyddiadau adolygiad mewnol Llywodraeth
Cymru o sut y mae’r £100m a ddyrannwyd i wella safonau
ysgolion drwy gydol y Cynulliad hwn yn cael ei wario a sut y mae canfyddiadau’r adolygiad wedi
dylanwadodd y canfyddiadau hyn ar ddyraniadau cyllideb yn 2019-20 a
2020-21.
·
Oherwydd prinder amser, ni lwyddodd y
Pwyllgor i ofyn cwestiwn am gyllid ar gyfer plant o Leiafrifoedd
Ethnig a phlant Sipsiwn, Roma a Theithwyr ond mae wedi gofyn am
ymateb ysgrifenedig.
</AI2>
<AI3>
3
Craffu ar
Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21
2.1 Craffodd y
Pwyllgor ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog mewn
perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
2.2 Cytunodd y
Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog i ddarparu’r wybodaeth
isod, yn ysgrifenedig, ar ôl y cyfarfod:
- y wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau
Llywodraeth Cymru yn dilyn ei gwaith archwilio gyda Swyddfa
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i archwilio Bondiau Effaith
Gymdeithasol fel model buddsoddi ar sail canlyniadau i leihau nifer
y Plant sy’n Derbyn Gofal, a hynny cyn gynted ag y bydd y
gwaith hwnnw wedi'i gwblhau;
- cadarnhad o ble yn union yn yr Asesiad Effaith Integredig
Strategol eleni mae manylion am yr “ystyriaeth glir o effaith
penderfyniadau cyllidebol ar hawliau plant” y cyfeirir ato yn
nhystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y sesiwn
hon;
- rhestr o brosiectau sy'n derbyn cyllid o dan y cynnig gofal
plant ar gyfer lleoliadau sy’n cynnig darpariaeth Cyfnod
Sylfaen a Gofal Plant;
- copi o'r llythyr a anfonwyd at Chwarae Cymru yn amlinellu'r
cylch gwaith sy'n gysylltiedig â'i gyllid yn y flwyddyn
ariannol ddiwethaf, a syniad o'r hyn y disgwylir i’r corff ei
gyflawni â'r cyllid a ddyrennir iddo yng Nghyllideb Ddrafft
2020-21;
- manylion pellach am y £2.3 miliwn y mae Llywodraeth
Cymru wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol yn ei Chyllideb
Ddrafft 2020-21 ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu, a rhagor o
fanylion am ei hymateb i bryderon Adoption UK Wales am y modd y
bydd eu cais aflwyddiannus am gyllid Grant Gwasanaethau
Cymdeithasol Cynaliadwy i’r Trydydd Sector ar gyfer 2020-21
yn effeithio ar wasanaethau cymorth.
</AI3>
<AI4>
4
Papurau i’w
nodi
4.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ystyried yn fanylach y papur yn ymwneud â
nodyn 9 (Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad) yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
</AI4>
<AI5>
</AI16>
<AI17>
5
Cynnig o dan Reol
Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y
cynnig.
</AI17>
<AI18>
6
Craffu ar
Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-2021 - Trafod y
dystiolaeth
</AI18>
<TRAILER_SECTION>
</TRAILER_SECTION>
<LAYOUT_SECTION>
1.
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
2.
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
<HEADING_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
</HEADING_LAYOUT_SECTION>
<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_SUMMARY
</COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.1
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.2
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>